Ym mis Tachwedd 2025, bydd Brasil yn cynnal y 30ain Cynhadledd y Partïon (COP30) Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (UNFCCC) yn ninas Belém. Bydd y digwyddiad yn nodi 30 mlynedd ers sefydlu proses a gychwynnwyd yn ninas Rio de Janeiro, Brasil, ym 1992, ac mae’n cael ei chynnal o fewn Coedwig Law yr Amazon am y tro cyntaf yn ei hanes.
Mae CAMAMAZON yn un o brosiectau ymchwil rhyngddisgyblaethol rhyngwladol yr Academi Brydeinig (OIIRP230289) dan faner y cynllun Cymorth Datblygu Swyddogol, a ddechreuodd ym mis Mai 2024. Mae’r prosiect yn dwyn ynghyd dîm o chwe ymchwilydd gyrfa gynnar ac ysgolheigion sefydledig ar draws Brasil ac Ewrop. Mae’n sefydlu cydweithio rhwng Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yng Nghymru a chanolfan uwchefrydiau’r Amazon (NAEA) ym Mhrifysgol Pará, Belém. Mae hefyd wedi sbarduno partneriaethau gyda’r Adran Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Ffederal Rio Grande do Sul a Phrifysgol Brasília.
Ym mis Awst 2024, cynhaliwyd gweithdy cyntaf y prosiect yn ninas Belém. Yn y digwyddiad hwnnw, nodwyd y cwestiynau a’r pryderon cyffredin sy’n sail i’r berthynas â’n partneriaid prosiect o blith pobl ifanc, pobl Frodorol, gwyddonwyr a llywodraeth Brasil – gweler isod. Bydd dull rhyngddisgyblaethol y prosiect yn cyfuno technegau cyfweld hanes llafar ar gyfer cofnodi hanesion amgylcheddol ymgysylltiad cyfranogwyr wrth lunio cytundeb hinsawdd gyda gwaith arsylwi dros gyfnod llywyddiaeth Brasil. Drwy’r ymchwil gyfranogol hon, ein nod yw grymuso’r bobl a’r strategaethau sy’n gwasanaethu’r goedwig a’i chymunedau.

Tîm y Prosiect
Hannah Hughes

Hannah Hughes yw prif ymchwilydd y prosiect. Mae hi’n Uwch-ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Newid Hinsawdd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Drwy ei gwaith ymchwil, mae Hannah wedi ceisio deall gan bwy mae’r pŵer i bennu ystyr a goblygiadau cyfunol newid hinsawdd. Mae hi wedi astudio hyn drwy’r Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC) a negodi gwyddoniaeth yng Nghonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (UNFCCC). Ei gobaith yw y bydd y prosiect yn ehangu cyfranogiad yn y ffordd rydym ni’n mynd i’r afael â newid hinsawdd fel problem gyffredin gyda’n gilydd ac i herio atgynhyrchu’r drefn fyd-eang bresennol o gysylltiadau.
Marcela Vecchione-Gonçalves

Mae Marcela Vecchione-Gonçalves yn wyddonydd gwleidyddol sy’n gweithio ar y ffiniau rhwng anthropoleg wleidyddol, astudiaethau amaethyddol ac amgylcheddol, gwleidyddiaeth
frodorol ac ecoleg hanesyddol yr Amazon. Mae ganddi PhD mewn Gwyddor Gwleidyddiaeth/Cysylltiadau Rhyngwladol ac mae’n Athro Cyswllt yng nghanolfan uwchefrydiau’r Amazon (NAEA) ym Mhrifysgol Ffederal Pará, lle mae’n addysgu meysydd yn cynnwys llywodraethu datblygu byd-eang, ffurfiannau economaidd, diwylliannol-gymdeithas a gwleidyddol-gymdeithasol yr Amazon, yr Amazon a gwleidyddiaeth newid hinsawdd a sylfeini gwybodegol a rhyngddisgyblaethol gwleidyddiaeth yn y trofannau. Mae hi wedi bod yn ymchwilydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Antwerp fel rhan o brosiect EPICC (offerynnau polisi amgylcheddol ar draws cadwyni nwyddau) yn canolbwyntio ar lywodraethu hinsawdd a bioamrywiaeth aml-lefel ym Mrasil, Colombia ac Indonesia. Yn CAMAMAZON, mae Marcela yn hwyluso prosesau yn NAEA, ac o NAEA, gyda phartneriaid y prosiect, gan weithio’n arbennig gyda chymdeithasau Brodorol a lleol yr Amazon i bartneru ac ymgysylltu â’u gwleidyddiaeth ar gyfer ysgogi gofodau, cynghreiriau a chyfranogiad yn COP30.
Veronica Korber Gonçalves

Mae Veronica yn Athro Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Ffederal Rio Grande do Sul a Phrifysgol Brasília. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar gyfiawnder hinsawdd mewn llywodraethu hinsawdd byd-eang. Drwy ei phrosiect CAMAMAZON, mae Veronica yn edrych ar y ffordd mae llywodraeth ffederal Brasil yn trefnu ei hun, a’i safiadau, yn ystod ei chyfnod yn llywyddu COP30. Mae’r llywodraeth wedi pwysleisio ei huchelgais i’r digwyddiad fod yn COP i’r Amazon a’r gynhadledd fwyaf democrataidd a chyfranogol erioed. Drwy astudio sut mae’r llywodraeth ffederal yn llunio’r naratif o amgylch COP30, nod Veronica yw myfyrio ar gyfyngiadau a heriau dadleuon polisi hinsawdd ym Mrasil.
Cristina Yumie Aoki Inoue

Mae Cristina Y. A. Inoue yn gyd-ymchwilydd ar y prosiect. Mae hi wedi bod yn ymchwilio i wleidyddiaeth amgylcheddol byd-eang a llywodraethu yn yr Amazon ers 2001. Mae Cristina yn canolbwyntio ar gyfiawnder amgylcheddol a llywodraethu trawsnewidiol, gan holi i ba raddau y mae mentrau fel COP30, cymorth rhyngwladol a phrosiectau bioeconomi/bioeconomi-gymdeithasol yn gyfiawn ac yn cydnabod ffyrdd cymunedau Brodorol a lleol o wybod a bod. Drwy’r prosiect, ei nod yw gwrando ar leisiau eraill a chyfrannu at rymuso pobl ifanc.
Diana Valencia-Duarte

Mae Diana Valencia-Duarte yn ddarlithydd yn hanes y de byd-eang yn Adran Hanes a Hanes Cymru Prifysgol Aberystwyth. Mae ei gwaith ymchwil wedi canolbwyntio’n bennaf ar hanes cymunedau gwerinol Colombia a’u tiriogaethau. Mae ei gwaith yn integreiddio hanes amgylcheddol mewn ymchwil drawsddisgyblaethol, gan ddatgelu hanesion am oroesi a gwrthsafiad yn erbyn cefndir o drais, gormes a pholisïau gwrthwerinol dros y ganrif ddiwethaf. Mae hi wedi cydweithio ar brosiectau cyfranogol gyda chymunedau Brodorol a Du, menywod, dioddefwyr gwrthdaro a mudiadau gwerinwyr. Yn ogystal, mae hi bellach yn cyfrannu at CAMAMAZON ac yn ymgysylltu â rhwydweithiau ymchwil adrodd straeon sy’n gweithio gyda phoblogaethau mudol yng Nghymru a De Asia.
Erszebet Strausz

Mae Erzsebet Strausz yn gyd-ymchwilydd ar y prosiect. Mae ei gwaith ymchwil yn edrych ar arferion gwybodaeth amgen, cyfarfyddiadau mwy na dynol a gwleidyddiaeth bywyd beunyddiol. Mae ganddi ddiddordeb mewn dulliau ymchwil creadigol, arbrofol a naratif wrth astudio gwleidyddiaeth y byd ac mae’n cydweithio ag artistiaid, cyrff anllywodraethol a chymunedau. Drwy’r prosiect hwn, mae Erzsebet yn ceisio cyd-greu a rhannu ffyrdd ymgorfforedig a lluosog o wybod sy’n gallu trawsnewid ein datgysylltiad o’r byd byw a datgloi dulliau mwy buddiol a gofalgar o fodoli, ymddwyn a bod gyda’n gilydd.
Partneriaid y prosiect
Kimberly Silva

Kimberly Silva yw cyd-sefydlydd a chyfarwyddwr rhanbarth Amazon y corff anllywodraethol Palmares Laboratório Ação. Mae Kim yn fiolegydd ac ymgyrchydd amgylcheddol-gymdeithasol 26 oed o Pará, lle mae’n byw ac yn gweithio ym maes gweithredu prosiectau cymunedol amgylcheddol-gymdeithasol. Mae hi wedi bod yn gweithio dros symudedd ieuenctid a gyda mudiadau ieuenctid yn yr Amazon ers dros saith mlynedd. Ei harbenigeddau yw rhywedd, cyfiawnder hinsawdd a hiliaeth amgylcheddol, gyda ffocws ar yr Amazon ac addasu gwrth-hiliol. Cafodd ei chydnabod fel un o Weledyddion Ifanc Prudential yn 2023. Mae hi’n cynrychioli Palmares Lab yn COP das Baixadas, clymblaid o sefydliadau o Belém a’r rhanbarth dinesig sy’n ceisio datganoli’r ddadl hinsawdd a llywio agendâu hinsawdd cenedlaethol a rhyngwladol ar y cyrion – lle mae pobl yn cael eu heffeithio fwyaf gan yr argyfwng hinsawdd ac yn meddu ar atebion gwerthfawr ar gyfer problemau amgylcheddol-gymdeithasol yr oes.