Golwg arall ar Bonn: Y croestoriad rhwng hil a rhywedd o’r lleoliad i’r strydoedd 

Pan fyddwch chi’n arsylwi trafodaethau, fel ymchwilydd, nid yw’r arsylwadau’n dechrau ac yn dod i ben wrth fynd i mewn ac allan o’r lleoliad. Efallai, wrth geisio deall y byd o’n cwmpas, nad yw’r arsylwi a’r dadansoddi byth yn stopio. Ers gadael Bonn rwyf wedi bod yn ceisio gwneud synnwyr o’r hyn a brofais wrth i mi wneud fy ffordd o’r lleoliad i’r maes awyr trwy ddinas Bonn. Mae’r atgofion sydd wedi creu argraff yn fy atgoffa o’r croestoriad dwfn rhwng hiliaeth a misogynedd. Croestoriad sy’n cael ei gerdded drosto bob dydd ac sy’n anweledig, ond mewn gwirionedd, sydd yn hollol blaen, dim ond ei fod yn cael ei anwybyddu.   

Roeddwn i’n mynd trwy’r ddinas i brynu losin o’r siop Haribo ac yn cerdded yn ôl tuag at yr orsaf fysiau. Mae’r ardaloedd o amgylch yr orsaf fysiau a threnau bob amser yn lle delfrydol ar gyfer cael blas ar le a’i bobl. Cerddais i lawr stryd ochr; roedd pibellau newydd yn cael eu gosod. Roedd menyw Ddu yn ei chwman wrth y drws. Roedd ei bronnau’n edrych yn llawn ac roedd hi’n aflonydd yn ei chwsg. Chwiliais am y babi. Roedd cymaint o bethau wedi’u stwffio wrth y drws – cadair wthio, sedd car a bagiau plastig o bethau. Doeddwn i ddim yn gallu gweld babi. Aeth ias oer drwydda i a dyma fi’n parhau i gerdded.   

Roedd y ddelwedd hon yn adeiladu ar wythnos o adegau lle roeddwn i’n teimlo bod y rhai o’m cwmpas yn cael eu trin yn wahanol i sut roeddwn i’n cael fy nhrin. Dyma ddyfalu ai’r ffaith mai pobl estron oedden nhw oedd y rheswm.  Ond roedden ni i gyd yn estron. Nid iaith oedd y rheswm; roedden ni i gyd yn siarad Saesneg. Ai lliw ydoedd?  

Yn y maes awyr, roeddwn i’n aros yn y ciw wrth y ddesg gofrestru. Roedd menyw Ddu wrth y ddesg. Roedd ganddi fygi dwbl mawr gyda’i phlentyn bach yn y blaen a’i phlentyn ieuengaf ar ei chefn. Gwyliais y fam yn dilyn cyfarwyddiadau cynorthwyydd y cwmni hedfan. Trosglwyddodd y pasbortau ac yna ceisiodd dynnu’r bagiau o waelod bygi – y bagiau sy’n cyd-fynd â dau blentyn dan dair oed. Roedd hi’n cael trafferth gyda bag plastig, roedd yn sownd. Dechreuais deimlo tyndra yn fy mrest. Tynnodd yn y bag ac fe symudodd y gadair wthio gyda’r grym. Bag plastig tila, yn llawn dop. Y dolenni!   

Roeddwn i’n cofio sefyll mewn ciw tebyg yn teithio ar fy mhen fy hun gyda fy mhlentyn ieuengaf. Roeddwn i’n teimlo mor gryf bryd hynny. Es i’n emosiynol i gyd. Wrth i’r tri chynorthwyydd o’r cwmni hedfan wylio, roeddwn i’n rhyfeddu at gryfder y fenyw hon a’r ffaith nad oedd hi wedi cynhyrfu. Daeth y bag yn rhydd. Yna roedd rhaid codi’r plentyn bach allan, a dechreuodd y crio. Ceisiodd lynu wrth ei fam wrth iddi geisio plygu’r gadair wthio a oedd yn cylchdroi o’i chwmpas. Allwn ni ddim goddef hyn. Symudais ymlaen i ddal y bygi’n llonydd, ac wrth i mi sefyll o fewn cam, ildiodd a phlygu’n ddau. Camais yn ôl i’r ciw. Fe wnaeth y ferch Ddu y tu ôl i mi fy nghydnabod trwy nodi’i phen. Gallwn i fod wedi ildio yno hefyd.   

Mae’r straeon hyn yn eiliadau yn y byd cymdeithasol rydym ni’n byw ynddo ar hyn o bryd. Nid yw’r byd o fewn y trafodaethau yn gweithredu’n union fel y byd y mae wedi’i leoli ynddo, ac eithrio pan mae’n gwneud hynny. Nid yw hil o fewn yr ystafelloedd cyfarfod a’r coridorau yn trefnu pethau fel y gwelais ar y strydoedd ac yn y maes awyr. Nid yw’n croestorri’n amlwg â rhywedd yn  niwylliant trafodaethau; ac eithrio pan fydd yn gwneud hynny. A phan fydd yn croestorri, gellir ei weld a’i glywed mewn geiriau croes neu geryddon wrth i rywun gael ei roi yn ei lle yng ngwŷdd pawb. 

Ni allaf anghofio’r hyn a welais. Mae eiliadau fel y rhain yn ailchwarae ac nid yw’n hawdd gwneud synnwyr ohonyn nhw. Mae’r gwyliwr yn cael ei nodi gan y niwed hwn hefyd.    

Llyfryddiaeth  

Rwyf wedi dysgu gweld profiadau o hil gyda phobl rwy’n teithio gyda nhw a cheisio gwneud synnwyr o’r rhain gyda gwaith Toni Morrison, yn enwedig Beloved, Still I Rise gan Maya Angelou, ac yn fwy diweddar, caneuon Frank Yamma, yn enwedig Black Man a She Cried